5ed Tachwedd 2024
budget2024E-copy.jpg

Cyllideb yr Hydref 2024

Cyflwynodd y Canghellor Rachel Reeves gyllideb gyntaf gan Llafur ers 2010. Cyhoeddodd £40bn mewn codiadau treth i ariannu'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dyma grynodeb o’r mesuriadau allweddol a allai effeithio chi ac/neu eich busnes:

Trethi Personol:

  • Bydd cyfraddau treth incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ar gyfer gweithwyr, a TAW yn aros yr un fath.
  • Bydd trothwyon treth incwm yn codi gyda chwyddiant ar ôl 2028, gan atal mwy o bobl rhag cael eu gwthio i fandiau uwch wrth i gyflogau gynyddu.
  • Bydd cyfradd sylfaenol y dreth enillion cyfalaf (CGT) ar elw o werthu cyfranddaliadau yn codi o 10% i 18%, tra bydd y gyfradd uwch yn cynyddu o 20% i 24%.
  • Bydd cyfraddau treth enillion cyfalaf ar elw o werthu eiddo ychwanegol yn aros yr un fath.
  • Bydd y drothwyon treth etifeddiant yn aros yr un fath tan 2030, a bydd cronfeydd pensiwn heb eu gwario hefyd yn disgyn o fewn treth etifeddiant o 2027.
  • Bydd eithriadau etifeddiaeth ar gyfer tir fferm yn llai hael o 2026. Cysylltwch a ni os ydych angen mwy o wybodaeth.

Trethi Busnes:

  • Bydd cwmnïau nawr yn talu 15% YG ar gyflogau dros £5,000, i fyny o 13.8% ar gyflogau dros £9,100.
  • Bydd y lwfans cyflogaeth, sy'n helpu cwmnïau llai i leihau eu rhwymedigaethau YG, yn cynyddu o £5,000 i £10,500.
  • Bydd ‘pick-up’ caban dwbl yn cael ei drin fel car at ddibenion treth o fis Ebrill 2025, sy’n debygol o arwain at hawliadau lwfans cyfalaf îs, a costau treth uwch ar dreuliau a buddiannau.
  • Bydd y brif gyfradd treth gorfforaeth, ar fusnesau gydag elw dros £250,000, yn aros ar 25% tan yr etholiad nesaf.

Cyflogau, Budd-daliadau a Phensiynau:

  • Bydd yr isafswm cyflog ar gyfer rhai dros 21 oed yn codi o £11.44 i £12.21 yr awr o fis Ebrill, ac ar gyfer pobl ifanc 18-20 oed, bydd yn codi o £8.60 i £10.
  • Bydd pensiynau gwladol sylfaenol a newydd yn codi 4.1% y flwyddyn nesaf oherwydd y "clo triphlyg".
  • Bydd cymhwysedd ar gyfer lwfans gofalwr yn ehangu drwy gynyddu’r trothwy enillion wythnosol o £151 i £195.