Bookkeeping-icon.png

Cadw llyfrau

Gyda'n profiad helaeth o weithio gyda busnesau newydd gallwn eich sicrhau y bydd ein cyngor yn cael ei deilwra i gyflawni eich nodau a'ch amcanion busnes penodol. O gyngor ar ddechrau fel unig fasnachwr i ymgorffori Cwmni Cyfyngedig, rydym yma i'ch cynghori a'ch cefnogi drwy ddyddiau cynnar eich busnes.

Rydym yn arbenigo mewn darparu gwasanaeth cadw llyfrau i gleientiaid am brisiau cystadleuol. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynllunio o amgylch eich gofynion ac anghenion chi.

Mae llawer o berchnogion busnes yn gweld bod eu hamser yn cael ei wastraffu wrth geisio cynhyrchu cofnodion cywir pan ddylid eu amser gael ei dreulio yn rhedeg y busnes. Cadw llyfrau yw ein busnes ni. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi eich holl gofnodion i'r tîm a byddwch yn derbyn gwasanaeth cadw llyfrau proffesiynol a chywir.

Fel rhan o’r gwasanaeth gallwn ddarparu y datganiadau canlynol yn ôl yr angen:

  • Datganiad Elw a Cholled
  • Mantolen
  • Rhestr Dyledwyr
  • Rhestr Credydwyr
  • Dadansoddiad TAW
  • Cymhariaeth y flwyddyn/cyfnod flaenorol

Mae nifer o resymau allweddol dros gadw cofnodion cywir o'ch incwm a chostau, gyda rhai wedi'u rhestru isod.

  • Cyflawni eich rhwymedigaethau statudol i CThEM
  • Rheoli eich arian a'ch helpu i reoli eich busnes
  • I'n galluogi i gynhyrchu eich cyfrifon blynyddol yn fwy effeithlon gan arwain at arbediad cyffredinol yn ein ffioedd

Cysylltwch â ni i gael cymorth pellach ac i drafod eich gofynion chi.

CYSYLLTWCH Â NI