Mae dechrau eich busnes eich hun yn gyfnod cyffrous a prysur. Gall wynebu'r gwahanol agweddau ariannol a chyfreithiol ar ddechrau busnes fod yn frawychus iawn ar eich pen eich hun.
Mae hi mor bwysig eich bod wedi'ch sefydlu ar y strwythur cywir o'r diwrnod cyntaf, boed yn gwmni cyfyngedig neu'n unig fasnachwr.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn defnyddio dull ymarferol ac yn adolygu eich cynllun busnes, amcan o’ch enillion, ffynonellau incwm eraill ac yn cynghori pa strwythur sydd orau i chi.
Yn Jones & Graham, gallwn ddarparu'r gwasanaethau, y cyngor a'r gefnogaeth ganlynol:
- Ein defnyddio fel eich cynghorydd busnes
- Cyflwyniad i ddechrau eich busnes eich hun
- Paratoi eich cynllun busnes
- Codi cyllid ar gyfer eich busnes
- Cyflogedig neu hunangyflogedig?
- Ffurfio cwmni cyfyngedig
- Cytundebau partneriaeth
- Dewis eich dyddiad cyfrifo
- Cofrestru gyda CThEM ar gyfer hunan asesiad
- Cofrestru gyda Ty’r Cwmniau (cwmniau cyfyngedig)
- Yr isafswm cyflog cenedlaethol
- Cyflwyniad i'r system dreth ar gyfer y hunangyflogedig
- Oes angen ffurfio cwmni cyfyngedig?
- Cael y deunydd ysgrifennu'n iawn
Cysylltwch â ni i gael cymorth pellach ac i drafod eich gofynion chi.