Mae cwmni Jones a Graham wedi'i leoli yn Ninbych, Gogledd Cymru. Sefydlwyd y busnes yn wreiddiol yn 1989 gan Mr Dennis Jones, a oedd yn gweithredu fel unig berchennog tan 1993 pan ddaeth Geoff Graham yn bartner yn y busnes. Parhaodd Jones & Graham i fasnachu fel partneriaeth nes i Dennis Jones ymddeol yn 2003 gan adael Geoff Graham fel yr unig berchennog. Ym mis Ebrill 2014, daeth Emyr Jones yn bartner yn Jones & Graham, a blwyddyn yn ddiweddarach ymgorfforwyd y cwmni ac mae bellach yn masnachu fel Jones & Graham Accountants Ltd. Mae’r busnes wedi parhau i dyfu bob blwyddyn drwy ymestyn ei sylfaen cleientiaid ledled Gogledd Cymru ac i Ganolbarth Lloegr a'r Gogledd Orllewin.
Rydym yn dîm bach gyda 8 aelod o staff cyfeillgar sy'n cyfuno cyfoeth o brofiad a chymwysterau gan gynnwys ACCA, AAT a graddau Chyfrifyddiaeth. Er bod Geoff Graham bellach wedi hanner-ymddeol, mae'n parhau i wneud gwaith i gleientiaid Jones & Graham yn rheolaidd.
Rydym yn cynnig ein gwasanaethau'n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn ymdrin â phob agwedd ar Gyfrifeg, Treth, Cadw Llyfrau a TAW, y Gyflogres, Cofrestru Pensiwn yn Awtomatig, a materion eraill sy'n ymwneud â busnes. Rydym hefyd yn cynnig y cyngor diweddaraf ar gyllid grantiau a benthyciadau sy'n gysylltiedig â chorafeirws. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Unig Fasnachwyr, Partneriaethau, Cwmnïau Cyfyngedig, Elusennau a Mentrau Cymdeithasol.
Rydym yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel am brisiau cystadleuol. Hefyd, mae gallu cyfathrebu a darparu pob gwasanaeth yn Gymraeg yn ychwanegu gwerth sylweddol at ein gwasanaeth cyngor a chymorth parhaus i fusnesau yn yr ardal leol.
Ein nod yw cadw y safonau uchel iawn a ddisgwylir o fewn ein proffesiwn ac rydym yn aelodau o Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
Cysylltwch â ni i gael cymorth pellach ac i drafod eich gofynion chi.