Rydyn ni'n cael gwasanaeth dwyieithog gwych gan dîm Jones & Graham. Maen nhw'n ymateb yn brydlon i geisiadau dros y ffôn neu ar e-bost - does dim byd yn ormod o drafferth! Rydyn ni'n falch o ddweud mai Jones & Graham yw cyfrifwyr y cwmni ers dros 20 mlynedd ac mae'r gwasanaeth bob amser yn broffesiynol a'r cyngor yn werthfawr ac yn gywir.
ALED JONES & MANON CADWALADR | CYMEN CYFYNGEDIG
Rydym wedi dod i edrych ar gwmni Jones & Graham fel rhai sydd bob amser yn gwneud gwaith cymen, cyflym a gofalus ar ein cyfer yn Cadwyn Clwyd. Maent wastad yn darparu cyngor cyfredol ar gyfer ein busnes ac yn barod iawn i’n cynorthwyo yn bersonol neu dros y ffôn. Mae'r staff yn gyfeillgar bob amser ac mae eu cyngor dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy i Cadwyn Clwyd. Rydym yn fwy na pharod i'w hargymell i eraill
CATRIN AMES & DELYTH EDWARDS | CADWYN CLWYD CYF
Mae Popeth Cymraeg wedi bod yn gwsmer i Jones and Graham ers bron i 30 mlynedd ac rydym yn eithriadol o hapus gyda safon uchel y gwasanaeth y maent yn ei roi i ni. Mae'n gorff hynod broffesiynol ac mae'r staff yn hawdd iawn cydweithio â nhw.
IOAN TALFRYN | POPETH CYMRAEG CYF
I have used Jones & Graham for over 5 years now and I have been very impressed. Quick to respond, good strong tax advice and very informative when legislation changes which directly impacts our business.
The fees chargeable are fair and there are never ever any hidden costs like some firms who charge extortionate fees for general accountancy advice. Therefore, I would not hesitate in recommending Jones & Graham to any business looking to change firms.
TIM MAUNDER | ABBEY RENTALS LIMITED