Emyr Jones
F.C.C.A.
Cyfarwyddwr
Ymunodd Emyr â'r cwmni yn 2003 a daeth yn bartner yn 2014. Mae Emyr yn gymrawd o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae Emyr yn cynghori cleientiaid ar bob agwedd o dreth a pharatoi cyfrifon, yn ogystal â chyngor busnes cyffredinol.
Geoff Graham
F.C.C.A.
Cyfarwyddwr / Ymgynghorydd
Ymunodd Geoff â'r cwmni yn 1993 ac mae'n gymrawd o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae gan Geoff gyfoeth o brofiad o weithio gyda chwmnïau bach a chanolig sy'n cwmpasu pob agwedd ar gyfrifeg a threth. Er bod Geoff bellach wedi rhan-ymddeol, mae'n parhau i gyflawni ei rôl ar sail ymgynghori.
Linda Passe
A.A.T.
Cynghorydd Treth
Ymunodd Linda â'r tȋm yn 1989 a mae hi’n aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Mae gan Linda brofiad ym mhob agwedd ar gyfrifeg a threth, yn enwedig ar gyfer cleientiaid hunanasesu.
Eiri Jones
A.A.T
Technegydd Cyfrifon
Ymunodd Eiri â'r tîm ym 1995 a mae hi'n gymwys gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Mae gan Eiri gyfoeth o brofiad o baratoi cyfrifon, TAW a chadw llyfrau.
Eleri Jones
Derbynfa a Gweinyddu
Ymunodd Eleri â'r tîm yn 2003. Eleri yw ein derbynnydd ac mae hi'n gyfrifol am reoli'r dyletswyddau gweinyddol a rheoli credyd o fewn y cwmni.
Sarah Poh
A.A.T.
Technegydd Cyfrifon a'r Gyflogres
Ymunodd Sarah â'r tîm yn 2005 ac mae'n gymwys gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Mae gan Sarah flynyddoedd o brofiad o fewn prosesu’r gyflogres, yn ogystal â pharatoi cyfrifon, TAW a chadw llyfrau.
Teleri Hitchmough
B.Sc (Hons)
Hyfforddai A.C.C.A.
Ymunodd Teleri â'r tîm yn 2014 ac ar hyn o bryd mae hi'n gweithio tuag at ei chymhwyster A.C.C.A. Mae Teleri yn brofiadol ym mhob agwedd o’r gyflogres, paratoi cyfrifon, cadw llyfrau, a TAW.
Mew Chaimanee
B.Sc
Payroll and Accounts clerk
Mew joined the team in September 2022 and is responsible for the processing of clients’ weekly and monthly payrolls as well as assisting in the preparation of financial statements, VAT and bookkeeping.