VAT-icon.png

TAW

Gyda'n profiad helaeth o weithio gyda busnesau newydd gallwn eich sicrhau y bydd ein cyngor yn cael ei deilwra i gyflawni eich nodau a'ch amcanion busnes penodol. O gyngor ar ddechrau fel unig fasnachwr i ymgorffori Cwmni Cyfyngedig, rydym yma i'ch cynghori a'ch cefnogi drwy ddyddiau cynnar eich busnes.

Mae TAW yn sefyll am 'Treth ar Werth' ac fel y mae'r enw yn ei awgrymu mae hwn yn dreth a godir ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau y mae busnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW yn eu darparu yn y DU.

Codir TAW pan fydd busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW yn darparu nwyddau neu wasanaethau naill ai i fusnes arall neu i unigolyn. Mae'r cyflenwad o rai nwyddau a gwasanaethau yn ddi-radd (TAW o 0%) hyd yn oed pan gaiff ei ddarparu gan fusnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, tra bod rhai nwyddau a gwasanaethau wedi'u heithrio rhag TAW (ddim i’w cynnwys yn y ffurflen TAW) a lle mae busnes yn darparu'r ddau fath (safonol ac eithriedig) mae'n ofynnol iddynt baratoi cyfrifiad eithriad rhannol.

Gall Jones & Graham ddarparu'r gwasanaethau, y cyngor a'r gefnogaeth ganlynol:

  • Cofrestru eich busnes ar gyfer TAW
  • Eich cynghori ar y cynllun TAW mwyaf addas ar gyfer eich busnes
  • Cofrestru eich busnes ar gyfer gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i gyflwyniadau a thaliadau gael eu gwneud ar-lein (fel sy'n ofynnol gan CThEM)
  • Cofrestru eich busnes ar gyfer MTD (Gwneud Treth yn Ddigidol) fel sy'n orfodol erbyn hyn os yw eich trosiant trethadwy dros £85,000
  • Paratoi a chyfrifo eich taliad/ad-daliad TAW bob chwarter/mis
  • Eich atgoffa pan fydd eich dyddiad cau ar gyfer cyflwyno TAW yn agosáu

Os y dymunich i ni baratoi a chyfrifo eich TAW ar eich rhan neu gwirio eich cyfrifiant chi cyn i chi ei gyflwyno, byddwn yn hapus i helpu.

Cysylltwch â ni i gael cymorth pellach ac i drafod eich gofynion chi.

CYSYLLTWCH Â NI