Warning: Undefined array key "width" in /home/jonesandgrahamco/public_html/wp-includes/media.php on line 1241
Warning: Undefined array key "height" in /home/jonesandgrahamco/public_html/wp-includes/media.php on line 1242
Cyllideb y Gwanwyn 2024 - prif bwyntiau
Yn dilyn cyllideb y gwanwyn, rydym wedi paratoi crynodeb o’r diweddariadau a’r newidiadau a allai effeithio chi a/neu eich busnes. Dalier sylw, efallai na fydd rhywfaint o'r wybodaeth isod yn berthnasol i chi.
Er bod y llywodraeth wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau a throthwyon treth incwm, dyma grynodeb o’r hyn fydd yn newid naill ai o 6 Ebrill 2024 neu 6 Ebrill 2025:th April 2024 or 6th April 2025:
Crynodeb
- Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC)– cynyddwyd y trothwy enillion unigol i £60,000
- Gostyngiad arall o 2% mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol unigolion
- Gosodiadau Gwyliau i’w trin fel eiddo preswyl o 6 Ebrill 2025
- Gostyngiad cyfradd uwch Treth Cyfalaf ar eiddo preswyl o 28% i 24%
- Newidiadau i reolau unigolion ‘non-domicile’
- Trothwy cofrestru TAW i godi o £85,000 i £90,000
Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC)
Bydd y drothwy enillion yn cynyddu o £50,000 i £60,000 o 6 Ebrill 2024. Ar gyfer enillion rhwng £60,000 ac £80,000 bydd HICBC yn cael ei gyfrifo fel 1% am bob £200 o enillion dros y drothwy o £60,000.th April 2024. For earnings between £60,000 and £80,000 the HICBC will be calculated as 1% for every £200 of earnings over the £60,000 threshold.
Os yw eich enillion rhwng £50,000 ac £80,000, a’ch bod wedi rhoi’r gorau i dderbyn Budd-dal Plant yn y gorffennol oherwydd enillion uchel, efallai y byddai’n werth cysylltu â CThEF i ail gychwyn eich taliadau Budd-dal Plant ar gyfer 2024/25. Cysylltwch â ni os hoffech drafod.
Gostyngiad mewn Yswiriant Gwladol
Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd Yswiriant Gwladol yn gostwng eto o 2%, ar gyfer dosbarth 1 (cyflogedig) a dosbarth 4 (hunangyflogedig). Mae hyn yn golygu y bydd y cyfraddau canlynol yn berthnasol o 6 Ebrill 2024 ymlaen:th April 2024 the following rates will apply:
- Gweithwyr - 8% ar enillion rhwng £12,570 a £50,270, yna 2% ar enillion uwch
- Hunangyflogedig – 6% ar elw rhwng £12,570 a £50,270, yna 2% ar elw uwch
- Cyfraniadau Cyflogwyr – mae hyn i aros ar 13.8% ar enillion dros £9,100
Yn ogystal a’r uchod, mae dosbarth 2 Yswiriant Gwladol yn dod i ben ar 5ed Ebrill 2024.
Gosodiadau Gwyliau wedi’u Dodrefnu (FHL) i fynd o 6 Ebrill 2025
Bydd pob Gosodiad Gwyliau yn cael ei drin fel unrhyw eiddo preswyl arall a osodir o 6 Ebrill 2025. Mae'r prif effeithiau o’r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:th April 2025. The main consequences include the following:
- Bydd gostyngiad llôg cyllid yn cael ei golli
- Ni fydd lwfans cyfalaf ar gael ar ddodrefn, nwyddau gwyn ac ati.
- Rhyddhad busnes treth cyfalaf – Ar hyn o bryd mae CThEF yn trin FHL fel ased busnes sy’n golygu, pan gaiff ei werthu, y gall y trethdalwr hawlio ‘Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes’ a thalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) ar y gyfradd is o 10%. O fis Ebrill 2025, bydd y cyfraddau CGT yr un fath a’r rhai ar gyfer eiddo preswyl arferol (18%/24%)
Treth Enillion Cyfalaf
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd y lwfans blynyddol yn gostwng i £3,000 o 6 Ebrill 2024.th April 2024.
Bydd y cyfraddau treth CGT yn aros yr un fath ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol (10% neu 18% ar eiddo preswyl), ond bydd y gyfradd CGT uwch ar eiddo preswyl yn gostwng o 28% i 24% o 6 Ebrill 2024.th April 2024.
Gallai’r newidiadau uchod annog pobl i werthu eu hail gartrefi cyn 06/04/2025, pan fydd y rheolau treth yn newid fel yr eglurwyd yn rhan 3 uchod.
Newidiadau i reolau unigolion ‘non-domicile’
O 2025, bydd statws treth ‘non-domicile’ yn cael ei golli os yw’r unigolyn wedi bod yn byw yn y DU am 4 blynedd. O'r 5ed flwyddyn ymlaen (o fod yn domisil yn y DU) bydd yr holl incwm ac enillion tramor hefyd yn drethadwy yn y DU.th year (of being UK resident) all foreign income and gains will also be taxable in the UK.
Cysylltwch â ni os credwch y bydd yr uchod yn berthnasol i chi.
Trothwy cofrestru TAW i gynyddu
O Ebrill 2024 bydd y trothwy cofrestru TAW yn cynyddu o £85,000 i £90,000.
Mae’r trothwy dadgofrestru TAW hefyd wedi’i gynyddu o £83,000 i £88,000.