Cyllideb Gwanwyn 2023 – pwyntiau allweddol
Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys Jeremy Hunt ei gynllun ariannol ddydd Mercher pan wnaeth ei araith ar Gyllideb Gwanwyn 2023. Rydym wedi crynhoi’r prif newidiadau a fydd yn effeithio chi ac/neu eich busnes isod:
Treth Incwm
Fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb yr hydref, mae’r lwfans personol o £12,570 a throthwyon y gyfradd sylfaenol wedi eu rhewi tan 5 Ebrill 2028.
Mae lwfans cynilo personol o £1,000 yn parhau ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol a £500 ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch. Mae’r lwfansau difidend yn gostwng o £2,000 i ddim ond £1,000 yn 2023/24.
Yswiriant Gwladol
Mae trothwyon CYG y cyflogwr a’r cyflogai hefyd wedi’u rhewi tan 5 Ebrill 2028. Mae hyn yn golygu y bydd CYG cyflogwyr yn parhau i fod yn gymwys ar 13.8% i enillion dros £9,100 y flwyddyn a bydd gweithwyr yn parhau i dalu 12% ar enillion rhwng £12,570 a £ 50,270, a 2% wedi hynny.
Gostyngiad treth pensiwn
Mae’r tâl lwfans oes pensiwn presennol (LTA) yn cael ei ddiddymu o 6 Ebrill 2023. Roedd yr LTA yn golygu byddai rhai enillwyr uchel e.e. meddygon yn ymddeol yn gynnar gan fod taliadau treth yn berthnasol wrth grisialu cronfeydd pensiwn os eir y tu hwnt i'r LTA (£1,073,100 ar hyn o bryd).
Mae’n bosibl y bydd unigolion yn gallu derbyn 25% o’u cynilion pensiwn fel cyfandaliad di-dreth pan fydd ganddynt hawl i’w buddion pensiwn. Mae hyn wedi’i gapio ar hyn o bryd ar 25% o’r LTA ac wrth symud ymlaen, ar gyfer y rhan fwyaf o unigolion, bydd yn parhau i gael ei gapio ar £268,275.
Yn ogystal â hyn, bydd y Lwfans Blynyddol (LB) pensiwn yn cynyddu o £40,000 i £60,000 o 6 Ebrill 2023. Mae'r LB yn berthnasol i'r cyfraniadau pensiwn cyfun a wneir gan yr unigolyn a'i gyflogwr. Codir treth ar yr unigolyn os yw cyfraniadau pensiwn blynyddol yn fwy na’r LB, fodd bynnag gallant ddefnyddio unrhyw symiau LB nas defnyddiwyd o’r 3 blynedd dreth flaenorol, cyn belled â’u bod yn aelod o gynllun pensiwn yn ystod y 3 blynedd hynny.
Ar gyfer unigolion ag incwm uchel (incwm wedi'i addasu o dros £240,000), mae'r LB ar hyn o bryd wedi'i dapro gan £1 am bob £2 dros £260,000, i lawr i isafswm o £4,000. O 6 Ebrill 2023 bydd y trothwy ‘incwm wedi’i addasu’ yn cael ei gynyddu i £260,000 a bydd yr isafswm yn cynyddu i £10,000.
Treth Enillion Cyfalaf
Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref, bydd y lwfans blynyddol o £12,300 ar gyfer treth enillion cyfalaf yn cael ei ostwng i ddim ond £6,000 yn 2023/24 ac yna i £3,000 yn 2024/25. Felly, os ydych yn cynllunio unrhyw werthiant cyfalaf, mae’n bwysig ystyried y strategaeth orau ar gyfer hyn.
Treth Gorfforaeth
O 1 Ebrill 2023, bydd cyfradd y Dreth Gorfforaeth yn cynyddu i 25% os bydd elw cwmni yn fwy na £250,000 y flwyddyn. Bydd y gyfradd gyfredol o 19% yn parhau i fod yn berthnasol lle nad yw elw yn fwy na £50,000 y flwyddyn. Os yw elw cwmni rhwng £50,000 a £250,000 y flwyddyn, caiff yr elw ei drethu ar y gyfradd uwch o 25%, ond rhoddir ‘rhyddhad ymylol’ i leihau’r rhwymedigaeth, gyda’r gyfradd weithredol yn agosach at 19% ar gyfer y rhai sydd â elw ychydig dros £50,000.
Lwfansau Cyfalaf ar Offer a Pheiriannau
Mae terfyn y Lwfans Buddsoddi Blynyddol (AIA) sy’n darparu rhyddhad treth o 100% wrth fuddsoddi mewn offer a pheiriannau cymwys wedi’i osod yn barhaol ar £1miliwn. Bydd yr uwch-ddidyniad dros dro, sy’n darparu rhyddhad o 130% ar gyfer peiriannau a pheiriannau cymwys newydd a brynir gan gwmnïau cyfyngedig, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023.
Bydd ‘treuliau llawn’ newydd (rhyddhad treth Lwfans Blwyddyn Gyntaf (LBG) o 100%) ar gael nawr i gwmnïau cyfyngedig sy’n buddsoddi mewn offer a pheiriannau cymwys newydd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026. Fodd bynnag, dim ond cwmnïau sydd eisoes wedi defnyddio eu lwfans LBB llawn (£1miliwn) fydd yn cael defnydd o'r LBG newydd hwn.
Ymchwil a Datblygu
Bydd y gyfundrefn rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gweld llawer o newidiadau o fis Ebrill 2023, mae’r newidiadau allweddol fel a ganlyn:
- Ar gyfer busnesau bach a chanolig, bydd cyfraddau rhyddhad treth ymchwil a datblygu yn cael eu gostwng o 230% i 186%.
- Bydd y Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) sydd ar gael i gwmnïau nad ydynt yn fusnes bach a chnolig (SME) yn cynyddu o 13% i 20%.
- Ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n gwneud colled, bydd y credyd taladwy cyfredol o 14.5% ond ar gael i gwmnïau lle mae eu gwariant Ymchwil a Datblygu yn cyfateb i o leiaf 40% o gyfanswm eu gwariant. Ar gyfer unrhyw gwmni nad yw’n bodloni’r prawf 40% bydd y credyd taladwy yn gostwng o 14.5% i 10% o’r golled gymwys.