
Cronfa i fusnesau o dan gyfyngiadau
Yn dilyn y cyhoeddiad ar 12 Mawrth gan y Prif Weinidog, cyflwynwyd dau grant newydd yn gysylltiedig â Chyfradd Domestig a fydd yn cau ar 31 o Fawrth 2021.
Mae cefnogaeth ychwanegol yn cael ei gyflwyno i helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden ac adwerthu an-hanfodol sy'n talu cyfraddau annomestig. Bydd hyn yn gweithredu fel ychwanegiad at y Gronfa Busnesau o dan Gyfyngiadau. Bydd hyn yn gweld busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000 a bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £ 5,000.
Bwriad yr arian grant newydd yw helpu busnesau gyda'u costau hyd at 31 Mawrth 2021 a bydd ar gael i gwmnïau waeth beth yw nifer y gweithwyr sydd ganddynt.
Bydd Awdurdodau Lleol yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r ddau daliad hyn.
Os yw eich busnes yn talu trethi annomestig ac eisoes wedi derbyn taliad trwy eich Awdurdod Lleol yn ystod y cyfnod atal byr ym mis Hydref, nid oes angen i chi wneud cais eto gan y byddwch yn derbyn taliad yn awtomatig i'ch cyfrif banc drwy Gronfa Busnes Cyfyngiadau, yn ystod Mawrth 2021
Fodd bynnag, os nad ydych wedi cofrestru gyda'ch Awdurdod Lleol o'r blaen, bydd y broses gofrestru yn agor o ddydd Llun 15 Mawrth 2021. Dalier sylw y bydd y broses ymgeisio yn cau am 5yh ar 31 Mawrth 2021.
Ewch i wefan eich Awdurdod Lleol i wirio cymhwysedd a chychwyn eich cais.