19eg Ebrill 2021
minimum wage

Isafswm Cyflog Byw/ Cenedlaethol 2021/22

Mae’r cyfraddau cyfredol ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai 22 oed ac iau) yn cael eu rhestru isod. Mae’r cyfraddau yma wedi newid ers y 1af mis Ebrill 2021.

 Cyfradd Gyfredol
23 a throsodd£8.91
21 i 22£8.36
18 i 20£6.56
O dan 18£4.62
Prentis**£4.30

**Mae gan prentisiaid yr hawl i gyfradd prentis os ydynt naill ai:

  • O dan 19 oed
  • yn 19 oed neu drosodd ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Os yw’r prentis yn 19 oed neu drosodd neu wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth, bydd ganddyn nhw'r hawl i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer eu hoed.

Pwy sydd â hawl i dderbyn Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Mae’n rhaid i’r gweithwyr fod o leiaf oedran gadael ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae gan pob gweithiwr yr hawl i’r gyfradd gywir o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, hyd yn oed os yw’n:

  • rhan amser
  • llafur achlysurol
  • gweithwyr asiantaeth
  • gweithwyr a gweithwyr cartref yn cael eu talu yn ol nifer yr eitemau maent yn ei greu
  • prentisiaid
  • hyfforddion, gweithwyr dan brawf
  • gweithwyr anabl
  • gweithwyr amaethyddol
  • gweithwyr tramor
  • gweithwyr alltraeth