3ydd Ebrill 2023
Isafswm Cyflog Byw a Cenedlaethol 2023/24
Mae’r cyfraddau cyfredol ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai 22 oed ac iau) yn cael eu rhestru isod. Mae’r cyfraddau yma yn newid ar y 1af Ebrill 2023.
Cyfradd 2022/23 | Cyfraddau newydd o Ebrill 2023 | |
23 a throsodd | £9.50 | £10.42 |
21 i 22 | £9.18 | £10.18 |
18 i 20 | £6.83 | £7.49 |
O dan 18 | £4.81 | £5.28 |
Prentis** | £4.81 | £5.28 |
**Mae gan prentisiaid yr hawl i gyfradd prentis os ydynt naill ai:
- O dan 19 oed
- yn 19 oed neu drosodd ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth
Os yw’r prentis yn 19 oed neu drosodd neu wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth, bydd ganddyn nhw'r hawl i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer eu hoed.
Pwy sydd â hawl i dderbyn Isafswm Cyflog Cenedlaethol?
Mae’n rhaid i’r gweithwyr fod o leiaf oedran gadael ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae gan pob gweithiwr yr hawl i’r gyfradd gywir o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, hyd yn oed os yw’n:
- rhan amser
- llafur achlysurol
- gweithwyr asiantaeth
- gweithwyr a gweithwyr cartref yn cael eu talu yn ol nifer yr eitemau maent yn ei greu
- prentisiaid
- hyfforddion, gweithwyr dan brawf
- gweithwyr anabl
- gweithwyr amaethyddol
- gweithwyr tramor
- gweithwyr alltraeth