Paratowch eich TAW ar gyfer MTD yn 2022
O Ebrill 2022, bydd yn ofynnol i bob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW (waeth beth yw lefel eu trosiant) gofrestru ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer TAW a chyflwyno'r holl ffurflenni TAW yn electroneg i Gyllid a Thollau EM.
O'u cyfnod TAW cyntaf o'r 1af Ebrill 2022, bydd yn rhaid i fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW (gan gynnwys hunangyflogedig a landlordiaid) nad yw'n ofynnol eisoes iddynt weithredu MTD o dan y gofynion sy'n berthnasol o 1 Ebrill 2019, wneud y canlynol:
- cadw eu cofnodion yn ddigidol (at ddibenion TAW yn unig)
- darparu eu gwybodaeth TAW i Gyllid a Thollau EM trwy feddalwedd sy'n gydnaws ag MTD
O dan MTD, rhaid i fusnesau gadw cofnodion digidol a defnyddio meddalwedd i gyflwyno eu ffurflenni TAW i Gyllid a Thollau EM. O dan y newidiadau, bydd angen i'r rhai nad ydynt eisoes yn cadw eu cofnodion yn ddigidol ddechrau gwneud hynny ar gyfer eu rhwymedigaethau TAW. Dylai'r broses o anfon ffurflenni i Gyllid a Thollau EM ddod yn fwy syml, gan gynhyrchu eu ffurflenni a'u hanfon yn uniongyrchol o'r feddalwedd y maent yn ei defnyddio i gadw eu cofnodion.
Cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw'n ddigidol
Mae angen i chi gadw'r cofnodion canlynol yn ddigidol:
- enw, cyfeiriad a rhif cofrestru TAW eich busnes
- unrhyw gynlluniau TAW rydych chi'n eu defnyddio
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau rydych chi'n eu cyflenwi, er enghraifft popeth rydych chi'n ei werthu, ei brydlesu, ei drosglwyddo neu ei logi allan (cyflenwadau wedi'u gwneud)
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn, er enghraifft popeth rydych chi'n ei brynu, ei brydlesu, ei rentu neu ei logi (cyflenwadau a dderbyniwyd)
- unrhyw addasiadau a wnewch i ffurlen TAW
- yr ‘amser cyflenwi’ a ‘gwerth y cyflenwad’ (gwerth heb gynnwys TAW) ar gyfer popeth rydych yn ei brynu a’i werthu
- cyfradd y TAW a godir ar nwyddau a gwasanaethau rydych chi'n eu cyflenwi
- trafodion gwrthdroi - lle rydych chi'n cofnodi'r TAW ar y pris gwerthu a phris prynu nwyddau a gwasanaethau rydych chi'n eu prynu
- cyfanswm eich derbyniadau gros dyddiol os ydych chi'n defnyddio cynllun manwerthu
- eitemau y gallwch hawlio TAW yn ôl arnynt os ydych chi'n defnyddio'r Cynllun Cyfradd Fflat
- cyfanswm eich gwerthiannau, a'r TAW ar y gwerthiannau hynny, os ydych chi'n masnachu mewn aur ac yn defnyddio'r Cynllun Cyfrifeg Aur
Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych yn ansicr ynglyn a'ch rhwymedigaethau MTD.