
Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol
Fel y bydd llawer ohonoch efallai’n gwybod yn barod, mae’n bwysig gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso i dderbyn pensiwn y wladwriaeth llawn. Uchafswm pensiwn y wladwriaeth ar hyn o bryd yw £185.15 yr wythnos, ond nid yw'r swm yma wedi'i warantu a bydd yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymwysiedig sydd gennych, neu faint o gredydau YG.
Bydd yn ofynnol i’r rhan fwyaf gael 35 o gredydau blynyddoedd llawn, ond mae ychydig yn fwy cymhleth os y gwnaethoch ddechrau eich cyfraniadau YG cyn 2016 gan y bydd hyn yn dibynnu ar eich oedran a’ch cofnod YG hyd yn hyn. Gallai fod angen i rai gyfrannu am fwy na 40 mlynedd. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn fod pob unigolyn yn gwirio ei gofnod YG cyn gynted â phosibl.
Sut i wirio eich cofnod YG
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan Gov.uk trwy glicio ar y ddolen isod, yna dewis ‘Start Now’ (blwch gwyrdd)
https://www.gov.uk/check-state-pension
Os oes gennych chi ‘government gateway’ yn barod, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi a bydd yn dangos eich rhagolwg pensiwn yn seiliedig ar eich cyfraniadau hyd yma. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi bydd angen i chi greu cyfrif ‘Government Gateway’ yn gyntaf, trwy glicio ar ‘Create sign in details’ sydd ychydig o dan y blwch ‘Sign in’. Mae’n debygol y byddwch angen eich pasbort, manylion eich trwydded yrru a’ch rhif YG er mwyn cofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, cliciwch ar y ddolen uchod i weld eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Os nad yw’r rhagolwg yn dangoes eich bod yn gymwys am bensiwn y Wladwriaeth llawn, gallwch weld eich cofnod Yswiriant Gwladol yn llawn drwy glicio ar y ddolen sy’n dweud ‘View your National Insurance record’. Bydd hyn yn rhoi rhestr flynyddol o gredydau i chi a bydd yn dangos y blynyddoedd sydd ddim yn gymwys.
Beth i'w wneud os oes gennych fylchau yn eich cofnod
Gallwch brynu credydau YG i lenwi'r bylchau a chynyddu eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Fel arfer dim ond 6 blwyddyn dreth y gallwch chi fynd yn ôl, ond hyd at 31/07/2023 byddwch yn gallu mynd yn ôl mor bell â 2006 i lenwi unrhyw fylchau yn ôl yr angen. Felly, mae angen i chi wneud penderfyniad yn eithaf sydyn os ydych am wneud cyfraniadau gwirfoddol cyn 31/07/2023, fel arall dim ond ar gyfer y 6 blwyddyn dreth flaenorol y byddwch yn gallu cyfrannu.
Bydd cost prynu credydau YG yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol h.y. a oeddech yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn ystod y blynyddoedd coll, ac a ydych yn ychwanegu at flwyddyn rannol ayyb.
Peidiwch â gwneud unrhyw daliadau nes y byddwch wedi cysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol y llywodraeth (Future Pension Centre) i ganfod a yw’n werth gwneud cyfraniadau ychwanegol i lenwi’r bylchau, neu efallai y byddwch yn talu cyfraniadau ychwanegol ac yn gweld dim cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gellir cysylltu â nhw ar:
https://www.gov.uk/future-pension-centre
Ffôn: 0800 731 0175
Ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 (0)191 218 3600
Ffôn Gymraeg: 0800 731 0175
Gallwch hefyd ysgrifennu at:
The Pension Service 9
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LU
Gwiriwch i weld a allwch chi lenwi blynyddoedd i ffwrdd am ddim
Mae nifer o sefyllfaoedd lle gallwch ennill credyd YG heb orfod gwneud unrhyw gyfraniadau gwirfoddol, mae’r rhain yn cynnwys blynyddoedd pan oedd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Derbyniwyd tâl salwch statudol yn golygu bod eich enillion yn rhy isel
- Tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu statudol
- Roeddech yn ddi-waith ond wrthi'n chwilio am waith
- Lwfans cyflogaeth a chymorth - Roeddech yn gymwys i'w gael ond ddim yn ei hawlio
- Roeddech yn gofalu am aelod o'r teulu - Cyn belled â'ch bod rhwng 16 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, a bod yr aelod o'r teulu o dan 12 oed ac nid eich plentyn
- Roeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos
- Roeddech ar wasanaeth rheithgor
- Roeddech yn ofalwr maeth (ar ôl 06/04/2010)
- Roeddech ar gwrs hyfforddi a gymeradwyir gan y Llywodraeth
Gweler gwefan Gov.uk (dolen isod) i gael gwybodaeth am sut i hawlio'r credydau hyn.
https://www.gov.uk/national-insurance-credits/eligibility
Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch ynglyn â'r mater hwn.