8fed Gorffennaf 2021

Newidiadau i'r Cynllun Cadw Swyddi
Or 1af o Gorffennaf 2021, gofynnir i gyflogwyr gyfrannu tuag at gost cyflogau eu gweithwyr sydd yn dal i fod yn ‘furloughed’ ac o’r herwydd, bydd lefel y grant a dderbynnir yn cael ei ostwng. Rhaid i gyflogwyr barhau i dalu 80% o gyflogau y gweithwyr, hyd at gap o £ 2,500 y mis er mwyn bod yn gymwys i gael y grant.
Mae'r tabl isod yn dangos y newidiadau a fydd yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys y newid yn y cyfraniad sy'n ofynnol gan y cyflogwr, y swm sy'n daladwy gan y llywodraeth a'r swm y dylai'r gweithiwr ei dderbyn bob mis (os nad ydynt yn gweithio o gwbl):
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | |
Cyfraniad y llywodraeth: cyflogau am oriau heb eu gweithio | 80% hyd at £2,500 | 80% hyd at £2,500 | 70% hyd at £2,187.50 | 60% hyd at £1,875 | 60% hyd at £1,875 |
Cyfraniad cyflogwr: cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes |
Cyfraniadau cyflogwr: cyflogau am oriau heb eu gweithio | Na | Na | 10% hyd at £312.50 | 20% hyd at £625 | 20% hyd at £625 |
Am oriau heb weithio mae'r gweithiwr yn derbyn | 80% hyd at £2,500 y mis | 80% hyd at £2,500 y mis | 80% hyd at £2,500 y mis | 80% hyd at £2,500 y mis | 80% hyd at £2,500 y mis |