4th Mawrth 2021
Budget 2021_Jones&Graham

Cyllideb Gwanwyn 2021 Prif Bwyntiau

Ddydd Mercher 3 Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chyllideb Wanwyn. Er bod cyhoeddiad y gyllideb wedi mynd i'r afael ag ystod eang o faterion, rydym wedi nodi rhai o'r pwyntiau allweddol a allai effeithio ar eich busnes:

• Mae Cynllun Cadw Swyddi coronafeirws wedi'i ymestyn i fis Medi 2021. Bydd disgwyl i gyflogwyr gyfrannu 10% ar gyfer Gorffennaf ac 20% ar gyfer Awst a Medi
• Mae'r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) hefyd wedi'i ymestyn i fis Medi 2021, gyda'r rhai a oedd yn cyflwyno ffurflen dreth am y tro cyntaf yn 2019/20 bellach yn gymwys i gael y grant hefyd
• Bydd y Lwfans Personol yn cynyddu i £12,570 ar gyfer 2021/22 a chaiff ei rewi tan o leiaf 2026
• Bydd y trothwy cyfradd uwch yn cynyddu i £50,270 ar gyfer 2021/22 a chaiff ei rewi tan o leiaf 2026
• Bydd prif gyfradd y Dreth Gorfforaeth yn cael ei gosod ar 25% ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023
• Cyfradd elw fach o Dreth Gorfforaeth o 19% ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2023. Bydd y gyfradd elw fach yn berthnasol i elw o £50,000 neu lai
• Bydd cwmnïau sydd ag elw o rhwng £50,000 a £250,000 yn talu Treth Gorfforaeth ar 25% ond byddant yn gallu hawlio rhyddhad ymylol
• Bydd Cynllun Benthyciadau Adfer newydd yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod benthyciadau ar gael rhwng £25,001 a £10 miliwn
• Mae'r taliad Credyd Cynhwysol ychwanegol o £20 yr wythnos wedi'i ymestyn am chwe mis arall
• Mae cyfradd TAW is o 5% o fewn y sector lletygarwch a llety wedi'i hymestyn tan ddiwedd mis Medi 2021, pan fydd cyfradd o 12.5% yn ei disodli am 6 mis arall tan ddiwedd mis Mawrth 2022
• Mae'r uchafswm ar daliadau sengl cardiau digyswllt wedi mwy na dyblu o £45 i £100
• Gall cyflogwyr bach a chanolig barhau i adennill hyd at bythefnos o Dâl Salwch Statudol (SSP)cymwys i bob gweithiwr gan y Llywodraeth
• Dyrannwyd £100 miliwn i Dasglu Diogelu Trethdalwyr (Taxpayer Protection Taskforce) newydd i ddod o hyd i dwyllwyr COVID a allai fod wedi manteisio ar gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU
• Bydd y band cyfradd sero ar gyfer Treth Etifeddiant (Inheritance Tax) yn parhau ar £325,000 a bydd y band cyfradd sero eiddo preswyl yn parhau ar £175,000 tan 2026
• Bydd swm eithriedig blynyddol y Dreth Enillion Cyfalaf yn parhau ar ei lefel bresennol o £12,300 tan 2026