21ain Tachwedd 2022
autumn statement

Datganiad Hydref 2022 - Crynodeb

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys Jeremy Hunt ei gynllun ariannol ddydd Iau pan wnaeth ei araith Datganiad Hydref 2022. Amlinellodd y canghellor gynllun y llywodraeth, ac rydym wedi crynhoi’r prif bwyntiau isod:

  • Bydd trothwyon Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn aros ar eu cyfraddau cyfredol tan fis Ebrill 2028.
  • bydd trothwy cyfradd ychwanegol Treth Incwm yn cael ei ostwng o £150,000 i £125,140 o 6 Ebrill 2023.
  • bydd y trothwy cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd yn aros ar £9,100 o fis Ebrill 2023 tan fis Ebrill 2028. Bydd y Lwfans Cyflogaeth yn golygu na fydd y cyflogwyr lleiaf yn cael eu heffeithio
  • bydd y Lwfans Difidend yn cael ei ostwng o £2,000 i £1,000 o fis Ebrill 2023, ac i £500 o fis Ebrill 2024
  • bydd Swm Eithriedig Blynyddol Treth Enillion Cyfalaf yn gostwng o £12,300 i £6,000 o fis Ebrill 2023 ac i £3,000 o fis Ebrill 2024.
  • bydd band cyfradd sero Treth Etifeddiant (IHT) a bandiau cyfradd sero preswylio yn aros ar eu cyfraddau cyfredol tan fis Ebrill 2028
  • bydd y trothwyon cofrestru a dadgofrestru TAW yn aros ar y lefelau presennol o £85,000 am ddwy flynedd ychwanegol o 1 Ebrill 2024
  • diwygiadau i ryddhad treth ymchwil a datblygu – ar gyfer gwariant ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd y gyfradd Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu yn cynyddu o 13% i 20%, bydd didyniad ychwanegol SME’s yn gostwng o 130% i 86%, a chyfradd credyd SME yn gostwng o 14.5% i 10%. Mae’r llywodraeth yn parhau â’r adolygiad o ryddhad treth ymchwil a datblygu a lansiwyd yng Nghyllideb 2021 a bydd yn ymgynghori ar ddyluniad un cynllun.
  • Stamp Duty Land Tax (SDLT) cuts – on 23 September 2022, the government increased the nil-rate thresholds of SDLT from £125k to £250k for all purchasers of residential property in England and Northern Ireland and increased the nil-rate threshold for first time buyers from £300k to £425k. The cut will remain in place until 31 March 2025. This will be legislated through the SDLT (Reduction) Bill
  • Cymorth Costau Byw – taliadau costau byw ychwanegol i gefnogi’r cartrefi sydd yn dioddef fwyaf, gan gynnwys hyd at £900 o gymorth ychwanegol yn 2023-24 i gartrefi ar fudd-daliadau prawf modd, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn credydau treth
  • newidiadau i drethi cerbydau trydan – o fis Ebrill 2025, bydd ceir trydan, faniau a beiciau modur yn dechrau talu Treth Cerbyd (VED), yn yr un modd â cherbydau petrol a disel
  • Cyfraddau Treth Car Cwmni (CCT) – mae’r llywodraeth yn gosod cyfraddau ar gyfer CCT tan fis Ebrill 2028 i roi sicrwydd hirdymor i drethdalwyr a diwydiant ym Mil Cyllid yr Hydref 2022
  • Lwfans Blwyddyn Gyntaf ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan – bydd y llywodraeth yn ymestyn y Lwfans Blwyddyn Gyntaf o 100% ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan i 31 Mawrth 2025 ar gyfer Treth Gorfforaeth a 5 Ebrill 2025 ar gyfer Treth Incwm