
Yswiriant Gwladol i gynyddu o Ebrill 2022
Mae cyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) am gynyddu 1.25 y cant o fis Ebrill 2022. O ganlyniad i’r cynnydd hwn mae’n golygu y bydd gweithwyr yn talu CYG o 13.25% yn lle’r gyfradd gyfredol o 12%. Bydd cyfradd CYG y cyflogwr hefyd yn cynyddu o 13.8% i 15.05%.
Ar hyn o bryd, mae unigolion hunangyflogedig yn talu CYG Dosbarth 4 ar gyfradd o 9% ar elw dros y trothwy YG (£9,568 ar hyn o bryd), ond mae’r cynnydd yn golygu y byddant yn talu 10.25% o fis Ebrill 2022 ar yr holl elw dros y trothwy (£9,880 ar gyfer 2022/23). Bydd cyfraddau CYG Dosbarth 2 hefyd yn cynyddu o £3.05 yr wythnos i £3.15 yr wythnos ar gyfer 2022/23 a byddant yn berthnasol i bob unigolyn sydd ag enillion hunangyflogedig blynyddol o fwy na £6,725.
The rates of tax paid on dividends are also due to increase by 1.25 percent from April 2022. This means that anyone receiving dividends will pay 8.75% basic rate tax or 33.75% higher rate tax on their dividends (previously 7.5% and 32.5% respectively).
Bydd newidiadau pellach o fis Ebrill 2023 pan fydd y CYG ychwanegol o 1.25% yn cael ei ddisodli gan yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y cyfraddau CYG yn dychwelyd i’w lefelau gwreiddiol, gyda’r 1.25% ychwanegol yn cael ei drin fel ardoll ar wahân, a fydd hefyd yn berthnasol i unigolion dros oedran pensiwn y wladwriaeth.
Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu ewch i wefan Gov.uk https://www.gov.uk/national-insurance-rates-letters.