20fed Hydref 2021
reduced VAT

Cynnydd TAW ar gyfer busnesau lletygarwch

Ar 8fed o Orffennaf 2020 cyhoeddodd y llywodraeth ei bod yn bwriadu cymhwyso cyfradd ostyngedig TAW o 5% dros dro i rai cyflenwadau yn ymwneud â lletygarwch, gwestai a llety gwyliau a mynediad i rai atyniadau.

Cyflwynwyd y gyfradd is i bara am gyfnod dros dro rhwng 15 Gorffennaf 2020 a 12 Ionawr 2021 ac yna cafodd ei hymestyn i 31 Mawrth 2021. Yna, cyhoeddodd y llywodraeth yng Nghyllideb 2021 y bydd y gyfradd ostyngedig dros dro o 5% yn cael ei hymestyn am gyfnod pellach o chwe mis, tan 30 Medi 2021.

Ar y 1af Hydref 2021 cyflwynwyd cyfradd ostyngedig newydd o 12.5%, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.